Grŵp Cynghori Trethi Llywodraeth Cymru - Penodi Aelod Academaidd
Mae ymateb llawn Llywodraeth y DU i adroddiad y Comisiwn Silk, yn dilyn y cyhoeddiad gan y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog ar 1 Tachwedd, yn gam mawr ymlaen i ddatganoli yng Nghymru. Rydyn ni nawr yn dechrau ar raglen waith fawr sy'n prysur ddatblygu i fwrw ymlaen â'r newidiadau hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu Grŵp Cynghori Trethi i gefnogi'r gwaith hwn, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Cyllid.
Diben y grŵp yw rhoi cyngor a chymorth ar ddatblygu polisi a gweinyddu trethi yng Nghymru. Bydd hefyd yn rhoi cyngor ar effaith ehangach polisi trethi Cymru ar randdeiliaid ac economi a chymdeithas Cymru. Bydd y grŵp hefyd yn helpu i ddechrau cyfathrebu a gwella cyfathrebu gydag ystod eang o randdeiliaid ynghylch polisi a gweinyddu trethi er mwyn llywio ymgynghoriadau a deddfwriaeth trethi Llywodraeth Cymru yn well.
Dyddiad cau: 10 Ionawr 2014

More...
Grŵp Cynghori Trethi Llywodraeth Cymru - Penodi Aelod Proffesiynol Trethi
Mae ymateb llawn Llywodraeth y DU i adroddiad cyntaf Comisiwn Silk, yn dilyn y cyhoeddiad pwysig gan y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog ar 1 Tachwedd, yn gam mawr ymlaen i ddatganoli yng Nghymru. Rydym nawr yn dechrau ar raglen waith fawr sy'n datblygu’n gyflym i fwrw ymlaen â'r newidiadau hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu Grŵp Cynghori Trethi i gefnogi'r gwaith hwn, o dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Cyllid.
Diben y grŵp yw rhoi cyngor a chymorth ar ddatblygu polisi a gweinyddu trethi yng Nghymru. Bydd hefyd yn rhoi cyngor ar effaith ehangach polisi trethi Cymru ar randdeiliaid ac economi a chymdeithas Cymru. Bydd y grŵp hefyd yn helpu i ddechrau cyfathrebu a gwella cyfathrebu gydag ystod eang o randdeiliaid ynghylch polisi a gweinyddu trethi er mwyn llywio ymgynghoriadau a deddfwriaeth trethi Llywodraeth Cymru yn well.
Dyddiad cau: 10 Ionawr 2014
Diben y grŵp yw rhoi cyngor a chymorth ar ddatblygu polisi a gweinyddu trethi yng Nghymru. Bydd hefyd yn rhoi cyngor ar effaith ehangach polisi trethi Cymru ar randdeiliaid ac economi a chymdeithas Cymru. Bydd y grŵp hefyd yn helpu i ddechrau cyfathrebu a gwella cyfathrebu gydag ystod eang o randdeiliaid ynghylch polisi a gweinyddu trethi er mwyn llywio ymgynghoriadau a deddfwriaeth trethi Llywodraeth Cymru yn well.
Dyddiad cau: 10 Ionawr 2014
Banc Byrddau Celfyddydau a Busnes Cymru – Cyfleoedd Amrywiol
Mae Byrddau effeithiol yn deall beth yw eu rolau a’u cyfrifoldebau, yn cydweithio’n llwyddiannus ac yn meddu ar yr amrywiaeth cywir o sgiliau. Dylai unrhyw fwrdd wneud cyfraniad hanfodol i lwyddiant ei sefydliad - bydd yn ei rwystro rhag tyfu os nad yw’n effeithiol. Mae Celfyddydau a Busnes Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i sefydliadau celfyddydau a’u byrddau, gan eu helpu i gyflawni eu potensial drwy lywodraethu cryf ac effeithiol.
Un o’r rhai mwyaf llwyddiannus o’r rhain yw’r Banc Byrddau, sef cynllun sy’n rhoi rheolwyr sydd â sgiliau arbenigol ar fyrddau sefydliadau celfyddydau. Cyn cael eu rhoi ar fyrddau, caiff unigolion eu cydweddu’n ofalus, gan ystyried eu sgiliau, lleoliad daearyddol, diddordebau a phersonoliaeth a chânt hyfforddiant yn faes llywodraethu arfer gorau.
Dyddiad cau: Parhaus

Y Gronfa Loteri Fawr - Benodi Cadeirydd a Chyfarwyddwyr Ymddiriedolwyr
Mae gan y Gronfa Loteri Fawr £15 miliwn i’w fuddsoddi, i gefnogi’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Er mwyn gwneud hyn, mae am sefydlu ymddiriedolaeth annibynnol a fydd yn buddsoddi’r arian mewn nifer fach o gymunedau dynodedig dros gyfnod o 10 mlynedd.
Mae am benodi Cadeirydd a Chyfarwyddwyr Ymddiriedolwyr i ddatblygu’r model busnes a sicrhau y caiff y rhaglen ei chyflawni’n effeithiol. Bydd angen i chi ymrwymo i tua 24 diwrnod y flwyddyn.
Dyddiad Cau: 20 Ionawr 2014

Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy – Penodi Cadeirydd ac aelodau i’r Grŵp Llywio
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Cymru yn penodi cadeirydd ac aelodau i’r Grŵp Llywio Gwella Strategol.
Mae bod yn Gadeirydd neu aelod o’r Grŵp Llywio Gwella Strategol ar gyfer lles yn gyfle i gyfrannu at y broses o drawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.

More Articles...
- Mae angen i fwy o fenywod ymrwymo
- Hyfforddiant am ddim i bobl sydd am wneud cais am benodiad cyhoeddus
- Swyddi gwag fel Ymddiriedolwyr ar gyfer Home-Start Dwyrain Caerdydd
- Aelodau Pwyllgor Ffrinidau Parc Bute - Swyddi gwag
- Swyddi Is-Gadeirydd a Chydgysylltydd ar gyfer Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Affrica