Menywod sy’n ysbrydoli

Mae eisoes llawer o fenywod anhygoel sy’n helpu i bennu cyfeiriad Cymru a’r Deyrnas Unedig at y dyfodol mewn nifer o ffyrdd: fel penodeion cyhoeddus; ymddiriedolwyr elusennau; aelodau o fyrddau sefydliadau cyhoeddus a phreifat ac ochr yn ochr â gwirfoddoli, mae hefyd modelau rôl sy’n ysbrydoli drwy weithio i wella cyfleoedd cyfartal ym mywyd cyhoeddus.

Rydym am dynnu sylw at y llwybr a ddilynwyd gan y menywod hyn tuag at lwyddiant i ddangos y gellir goresgyn rhwystrau ac ysbrydoli mwy o fenywod i gymryd camau tuag at gyflawni penodiad cyhoeddus.

Os ydych yn fenyw sy’n ysbrydoli eraill neu’n gwybod am fenyw sy’n gwneud hynny, cysylltwch â ni a byddwn yn rhannu’ch stori.

Kirsty Williams AC

Kirsty Williams yw Aelod Cynulliad Brycheiniog a Sir Faesyfed ac arweinydd Democratiaid RhyddfryKirsty Williams AMdol Cymru. Cafodd Kirsty ei magu ym mhentref Bynea yn Sir Gaerfyrddin. Aeth i'r ysgol gynradd leol ac ysgol St. Michael's yn Llanelli, yna aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Manceinion a Phrifysgol Missouri. Bu Kirsty yn gweithio yng Ngholeg Sir Gâr ac ar gyfer busnes bach yng Nghaerdydd fel Swyddog Marchnata.

Ym 1999, cafodd Kirsty ei hethol yn Aelod Cynulliad Brycheiniog a Sir Faesyfed. Yn 2008, cafodd ei hethol yn Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Mae Kirsty yn byw ger Aberhonddu gyda'i gŵr a'u tair merch. Pan nad yw'n ymwneud â gwleidyddiaeth mae'n mwynhau teithio, treulio amser gyda'i theulu a siopa!

Cafodd Kirsty ei ysbrydoli i gymryd mwy o ran mewn bywyd cyhoeddus er mwyn gwneud ei chymuned yng Nghymru yn lle tecach i fyw. Roedd bywyd cyhoeddus yn gyfle iddi gynrychioli pobl a fyddai'n fel arall wedi'u hanwybyddu. Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Kirsty'n mwynhau ei rôl ar y Pwyllgor Iechyd a'r gwaith achos mae hi'n gwneud ar gyfer pobl a sefydliadau yn ei hetholaeth.

Wrth ddisgrifio'r rhwystrau o ran cyrraedd lle mae hi heddiw, dywedodd Kirsty bod "ceisio dod yn wleidydd pan oeddwn yn ifanc yn anodd, mae gwir rwystrau ariannol i bobl sydd am fod yn wleidyddion". Dywedodd Kirsty ei bod yn ffodus i gael teulu cefnogol ac unigolion allweddol o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol a aeth allan o'u ffordd i'w helpu gyda'i gyrfa. Mae hi'n arbennig o ddiolchgar i'w athro hanes a gwleidyddiaeth, Mr Burree, a ysbrydolodd hi i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth pan oedd yn yr ysgol uwchradd.

Cyngor Kirsty i fenywod eraill sydd am gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus yw: "Byddwch yn gryf a defnyddiwch bob cyfle i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad. Peidiwch â chredu'r bobl sy'n dweud nad ydych yn addas, a pheidiwch â gwrando ar eich llais mewnol llawn hunan amheuaeth, sef eich gelyn pennaf gan amlaf".

Anita Davies

Anita Davies yw cadeirydd Menywod yn Gwneud Gwahaniaeth, ac mae wedi gwirfoddoli gyda nhw am yr wyth mlynedd diwethaf,Anita Davies a chymerodd ran frwd yn eu rhaglen, Dinasyddion Gweithgar. Yn ogystal â hyn, hi yw cadeirydd cyfeillion Ysgol Gynradd Litchard (FOLPS), cadeirydd Democratiaid Rhyddfrydol Pen-y-bont ar Ogwr, a hi yw’r cynghorydd cymunedol ar uwch gyngor cymuned Coety. Mae Anita yn llywodraethwr ysgol hefyd a bydd hi’n bresennol fel cynrychiolydd a llais i rieni sydd â phlant ag anableddau. Mae hi’n gyfaill sy’n gwirfoddoli gyda mudiad Wyneb yn Wyneb, sy’n helpu i gysylltu rhieni sydd â phlant anabl â’i gilydd, i roi cefnogaeth emosiynol ac ymarferol. Trwy ei gwaith, bydd Anita’n bresennol mewn nifer o gyfarfodydd pwyllgorau a grwpiau ymgynghorol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a’r trydydd sector, ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg. 

Mae Anita’n byw gyda’i dau blentyn a’i phartner. Mae wedi cofrestru fel person dall, ac wedi profi sawl her, meddai. Cyn cael plant hi oedd y pencampwr Ewropeaidd, Rhyngwladol a’r pencampwr byd mewn jiwdo i bobl ddall. A hi oedd y fenyw gyntaf, yn ddim ond 19 oed, i deithio ar hyd a lled y byd i ddatblygu jiwdo pobl ddall i fenywod, gan mai dynion yn unig a fu’n cael cystadlu cyn hynny. Mae hi hefyd wedi wynebu heriau o ran ei bywyd gartref, gan ei bod yn rhiant sengl i blentyn ag anabledd corfforol a phlentyn sydd â nam ar ei olwg. Oherwydd cyflwr ei mab, mae hi wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes ef yn ymladd i gael y gwasanaethau a’r addysg sydd ei angen arno. Felly, mae hi’n dweud bod ei brwdfrydedd yn seiliedig ar anabledd, drwy wella annibyniaeth a mynediad o ran pob agwedd ar fywyd, drwy addysgu cymdeithas mewn ffordd gadarnhaol.

Ar ddechrau oes y Cynulliad Cenedlaethol ymrwymodd Anita i gynllun o’r enw BBC 60, y mae hi’n dal i weithio gydag o, ac ar hyn o bryd mae’n derbyn galwadau ffôn yn gofyn am ei safbwyntiau ar amrywiaeth o bynciau. Mae hi’n disgrifio’r gwaith gyda Menywod yn Gwneud Gwahaniaeth a Dinasyddion Gweithgar fel gwaith sy’n ysbrydoli, gan ei fod wedi rhoi dealltwriaeth newydd o bynciau nad oedd ganddi fawr ddim profiad ohonynt cyn hynny. Mae Anita yn datgan: "Rwyf wedi gweithio yn y trydydd sector am 22 o flynyddoedd, ym maes colli golwg, ac wedi gwneud nifer o swyddogaethau’n ymwneud â mynediad a dylunio, byw’n annibynnol, hyfforddiant ymwybyddiaeth a datblygiad personol ar gyfer unigolion er mwyn iddynt ddod i wybod eu hawliau."

Dywed Anita ei bod yn gwybod erioed sut fath o waith y byddai’n ei wneud, gan ei bod yn teimlo bod rhoi llais i anghenion pobl yn bwysig. Mae hi’n angerddol iawn am faterion y mae ganddi brofiad personol a phroffesiynol ohonynt, ac mae’n ymwybodol na all rhai pobl ymgysylltu cystal, am resymau amrywiol. Caiff rhai grwpiau o bobl sy’n agored i niwed eu hanghofio yn aml, ac mae Anita’n teimlo bod angen codi ymwybyddiaeth well er mwyn cynorthwyo i sicrhau cydraddoldeb. Mae Anita yn crynhoi’r cyfan drwy ddweud: "Rwy’n mwynhau helpu pobl. Mae gwybod fy mod wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun yn gwneud y cyfan yn werth chweil i mi.  Gall rhoi cefnogaeth i berson wneud gwahaniaeth enfawr i’r dewisiadau y mae’n eu gwneud."

Mae hi wedi wynebu llawer o rwystrau fel menyw sy’n anabl, i gyrraedd lle y mae hi heddiw. Oherwydd dywedodd llawer o bobl, y tu allan i gylch ei theulu agos, wrthi na allai hi wneud rhai pethau. Yn yr ysgol, dywedwyd wrthi nad oedd y fath air â ‘methu’ yn bod, a hyd yn oed heddiw, os bydd rhywun yn dweud wrthi na all hi wneud rhywbeth, mae hi’n ymdrechu i brofi eu bod yn anghywir. Mae’r ystod o wahaniaethu y mae hi wedi gorfod ymdrin ag ef, a’r niwed y mae hynny wedi’i achosi wedi’i gwneud yn gryfach, unwaith y bydd wedi cymryd amser i ystyried yn rhesymegol sut y byddai’n gweithredu yn yr un sefyllfaoedd eto.

Mae Anita yn enwi pedair menyw sydd wedi chwarae rôl bwysig yn ei bywyd ac wedi’i hysbrydoli yn y gwahanol gyfeiriadau a ddilynodd. Yn gyntaf, ei mam, am ei hannog i wneud pethau, pethau mor syml â mynd ar ei beic eto. Ei hathrawes Addysg Gorfforol yn yr ysgol, na fyddai byth yn caniatáu iddi roi’r gorau iddi, ac nad oedd yn arddel y geiriau ‘methu â gwneud’. Un arall yw ei chydweithiwr a’i chyfaill, Carys Henry, sydd wedi’i hysbrydoli drwy gydol ei gyrfa, am 22 mlynedd. Ac yn olaf, Paula Manley, sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i Anita mewn bywyd cyhoeddus am yr wyth mlynedd ddiwethaf.

Neges Anita i fenywod a hoffai wneud cais am benodiad cyhoeddus yw "gall y nod honno ymddangos ychydig yn frawychus ar y dechrau, ond wedi i chi ymgyfarwyddo â’r syniad a’r rôl yn ymarferol, bydd pethau’n haws. Mae cynifer o fanteision i wneud cais, fel datblygu eich sgiliau eich hun, gwneud ffrindiau, datblygu eich hyder a’ch gwybodaeth. Mae’r rhestr yn un faith.  Os ydych yn nerfus, beth am ddod o hyd i rywun a all eich mentora a’ch cefnogi?" 

Y Cynghorydd Sara Jones

Etholwyd Sara ar Gyngor Sir Fynwy ym mis Mai 2012. Mae’n cynrychioli ward Llanofer Fawr, ac mae’n aelod SaraJoneso nifer o bwyllgorau, gan gynnwys Pwyllgor yr Economi a Datblygu a’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. Mae Sara hefyd yn Bennaeth swyddfa Cymru ar gyfer cwmni materion cyhoeddus Grayling, a leolir ym Mae Caerdydd. Felly mae’n cyfuno ei rôl fel aelod etholedig â gwaith bob dydd prysur. Graddiodd Sara o Brifysgol Caerdydd gyda gradd BSc (Econ) mewn Gwleidyddiaeth a gradd MSc (Econ) mewn Polisi Cyhoeddus Ewropeaidd. Daw o gefndir ffermio, ac mae Sara wedi byw yn Sir Fynwy erioed. Ar hyn o bryd mae’n byw gyda’i phartner ar eu fferm ym Mrynbuga gyda’u merch fach ddwyflwydd oed. 

Cafodd Sarah ei hysbrydoli i gymryd mwy o ran mewn bywyd cyhoeddus drwy ei hangerdd dros ei thref enedigol, ei hawydd i bennu cyfeiriad strategol y Sir ac i weithio dros drigolion Sir Fynwy, i hyrwyddo’r ardal fel lle gwych i fyw a gweithio. Fel y tyfodd ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth, daeth yn ymwybodol iawn o’r diffyg cynrychiolaeth gan fenywod mewn llywodraeth leol, ac roedd yn awyddus i helpu i unioni’r sefyllfa, a grymuso menywod eraill i gael eu cynnwys hefyd.

Mae Sara yn hoff iawn o amrywiaeth y gwaith o fod yn aelod etholedig ac yn mwynhau cwrdd â phobl ddiddorol ledled Sir Fynwy a Chymru, sy’n ei helpu i ddeall y cymhellion a’r heriau sy’n wynebu trawstoriad o bobl o ddydd i ddydd.

Chamodd Sara ddim i’r sefyllfa hon yn hawdd, oherwydd teimlai rywfaint o ddiffyg hyder o’r dechrau: "Cymerodd ychydig flynyddoedd imi deimlo fy mod mewn sefyllfa i ymgeisio fel aelod etholedig. Gall amgylchedd lle y mae dynion yn y mwyafrif, fel llywodraeth leol, fod yn eithaf brawychus i fenyw yn ei hugeiniau, a dim ond gydag anogaeth gan bobl eraill y mae modd gwireddu’r cyfleoedd sydd ar gael."

Caiff Sara ei hysbrydoli gan yr amrywiaeth o fenywod y bydd hi’n eu gweld yn ei rôl bob dydd fel Pennaeth swyddfa Cymru cwmni Grayling, a’r bobl y mae hi’n eu cynrychioli ar y Cyngor, ond ar lefel bersonol, mae un fenyw yn benodol yn enghraifft y bydd hi’n ceisio ei dilyn:

"Yn y gorffennol cefais reolwr benywaidd gwych, a ddatblygodd drwy’r rhengoedd mewn diwydiant sy’n cael ei arwain gan ddynion i raddau helaeth, a dylanwadodd hi’n gadarnhaol iawn arnaf o ran fy nyheadau gyrfa.” Hefyd cafodd y cymorth a gefais gan arweinydd y cyngor, fy Aelod Seneddol, a’m Haelod Cynulliad lleol effaith gadarnhaol iawn arnaf."

Cyngor Sara i fenywod eraill sy’n ystyried cael swydd mewn bywyd cyhoeddus yw: "dylech ddod o hyd i rwydwaith o bobl sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg, i’ch cefnogi, a pheidiwch ag ofni gofyn am gyngor."

O ran dyheadau ar gyfer dyfodol arweinyddiaeth, dywedodd Sara: "Dim ond 26% o Gynghorwyr yng Nghymru sy’n fenywod, ac rwy’n teimlo’n angerddol ynghylch ceisio cynyddu eu cyfranogiad, er mwyn sicrhau bod ein cymdeithas yn fwy cynrychioliadol. Mae’r sgiliau a’r profiad y gall menywod eu cyfrannu i rolau mewn bywyd cyhoeddus yn amhrisiadwy, a pho fwyaf gweladwy yr ydym, po fwyaf y caiff menywod eraill eu grymuso i ymgeisio am swyddi tebyg."

Yr Athro Meena Upadhyaya

Mae Meena Upadhyaya yn Athro Geneteg Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae wedi dal nifer o swyddi Meena Upadhyayamewn bywyd cyhoeddus gan gynnwys Ymddiriedolwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Merched Cymru, mentor myfyrwyr sy'n dechrau yn y brifysgol a Llywodraethwyr Cymdeithas Ddiwylliannol Hindŵ. Mae ganddi PhD gan Brifysgol Caerdydd ac mae'n Gymrawd Coleg Brenhinol y Patholegwyr mewn Geneteg Folecwlar. Yn 2010, enillodd yr Athro Upadhyaya Wobr Ysbrydoli Cymru am Wyddoniaeth a Thechnoleg a chafodd Wobr Cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru yn 2011 am ei chyfraniadau niferus at faes Geneteg Feddygol.

Meena hefyd yw sylfaenydd a chadeirydd Gwobrau Llwyddiant Merched Asiaidd Cymru (WAWAA) sy'n ceisio grymuso merched Asiaidd ledled Cymru a hyrwyddo a chanmol eu cyfraniad a'u cefnogaeth i bob agwedd ar fywyd Cymru. Mae WAWAA yn cynnig cynllun a fydd yn cydnabod y merched Asiaidd hynny yng Nghymru sydd wedi cyfrannu'n sylweddol, yn ogystal â'r rheini sy'n defnyddio'u doniau'n effeithiol i helpu i ysbrydoli eraill o'u hamgylch, yn enwedig merched o leiafrifoedd ethnig, sy'n ysbrydoli eraill yn y gymuned i ddilyn eu hesiampl.

Yn nhŷb Meena "women are markedly under-represented in many spheres of life, including science, politics and both the public and private sector. It was on this basis that I founded WAWAA scheme, which profiles the achievement of women who are multiply disadvantaged - not only are they women, but they are also women from ethnic minorities who often face the multiple barriers of language, culture, appearance and religion."

O ran y rhwystrau y mae wedi'u hwynebu, dywed Meena "at times I have experienced injustice in my working environment, while this initially led to much frustration and anger, it subsequently aroused in me the resolve to do even better."

Dyma neges Meena i ferched eraill a fyddai'n hoffi gwneud cais am benodiadau cyhoeddus: "we all have the potential to succeed, however, it is very much up to each individual to fully apply themselves to any tasks with focused determination, to persevere, even when failures occur, and to apply good time management, but, perhaps most importantly, to fully support and encourage one another and to forgive those who are unpleasant and non-supportive."

Sara Pickard

Sara Pickard yw Swyddog Cyfranogi Prosiect Inspire Me Mencap Cymru ac mae'n un o YmddiriedolwyrSaraPickard
y Gymdeithas Syndrom Down. Mae gan Sara Syndrom Down ac mae'n un o gyn-ymddiriedolwyr Anabledd Dysgu Cymru. Mae hefyd yn Gynghorydd Cymunedol.

Aeth Sara i Ysgol Uwchradd Radur a Choleg Pontypridd cyn ymuno â Mencap Cymru yn 2006, lle y mae'n cael
cyfle i ddangos y gall pobl ag anableddau dysgu gyflawni rôl werthfawr, fedrus ac, yn bennaf oll, cyflogedig mewn sefydliadau. Mae'n frwdfrydig iawn i gysylltu â phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu drwy ei gwaith, ac mae'n
pwysleisio pa mor bwysig ydyw iddynt gael eu cynrychioli mewn bywyd cyhoeddus.

Yn 2008, cafodd ei hethol yn gynghorydd annibynnol ar Gyngor Cymunedol Pentyrch a chafodd ei hailethol ym
mis Mai 2012. Gweithiodd Sara ar y prosiect Partneriaid mewn Gwleidyddiaeth am bedair blynedd hefyd, a oedd â'r nod o annog mwy o bobl ag anabledd dysgu i gymryd rhan mewn prosesau gwleidyddol. Mae Sara'n hen gyfarwydd â'r rhwystrau y mae pobl ag anableddau dysgu yn eu hwynebu ac roedd yn rhaid iddi herio'r ffordd y câi cyfarfodydd y cyngor eu cynnal er mwyn sicrhau eu bod yn fwy hygyrch. Yn ei barn hi, y ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion hyn yw drwy beidio â bod yn rhy heriol nac uniongyrchol wrth dynnu sylw at rwystrau neu'r
bobl sy'n gyfrifol amdanynt, ond i gydweithio â phobl i ddangos iddynt sut y gallwch eu goresgyn gyda'ch gilydd.

Mae Sara hefyd yn dwlu ar y theatr ac mae'n berfformiwr dawnus. Mae wedi bod ar ddwy daith broffesiynol
gyda Hijinx Theatre yn 2009 a 2010. Ei rhieni, Mike a Shan, a'i chwaer, Bethan, a'i hysbrydolodd i ddechrau actio ac maent wedi bod yn help mawr iddi fagu hyder. Mae Sara'n dweud mai'r "rhwystr cyntaf y byddwch yn ei wynebu yw eich hyder eich hun a chymryd y cam mawr cyntaf. Ar ôl gwneud hynny, mae pethau'n haws."

Mae Sara'n hoff iawn o herio agweddau pobl. Mae'n aml yn herio ei chyd-gynghorwyr i wneud pethau mewn ffordd wahanol er mwyn sicrhau bod agendâu, cyfarfodydd a chyfleoedd yn fwy hygyrch i bobl anabl. Mae'n herio pobl ifanc anabl mewn ffordd gadarnhaol i arfer eu hawliau. Yn ei barn hi, os ydych yn rhan o fywyd cyhoeddus rydych yn cynrychioli pawb, ni waeth beth yw eu rhyw, eu hamodau, eu cefndir neu eu cred. I ddechrau, roedd pobl yn cofio Sara am yr hyn a oedd yn wahanol amdani, ond manteisiodd ar hynny er mwyn gwneud safiad a dweud rhywbeth gwahanol, a chyn hir, sylweddolodd pobl ei bod yno i helpu a chynrychioli pawb.

Mae Sara yn ysbrydoli pobl i arfer eu hawliau bob dydd, ac i beidio â phoeni beth yw barn pobl eraill.  "Rwyf
wedi gweld canfyddiad y cyhoedd o bobl anabl ac roeddwn am gymryd mwy o ran mewn bywyd cyhoeddus er mwyn dangos i'r cyhoedd beth y gallwn ei gyflawni. Mae pobl yn dweud ar gam weithiau fy mod yn 'dioddef' o Syndrom Down. Yr unig beth yr wyf yn dioddef ohono yw camdybiaethau ac agweddau gwael pobl."

@MenywodCymru

facebook        twitter
twitter
MenywodCymru @MenywodCymru
MenywodCymru Mae gan @coleggwent le gwag ar ei fwrdd. Cyfle da i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus. Cau 14 Medi #POWiPL http://t.co/zuhc1VIvoE
11h • reply • retweet • favorite
MenywodCymru Mae gan @RSPCAcymru lefydd gwag i ymddiriedolwyr mewn nifer o’i ganghennau. Cymerwch ran a gwnewch wahaniaeth http://t.co/BUbbat6bb2
11h • reply • retweet • favorite
MenywodCymru Rydym wedi bod yn trydar o’n blog newydd ar ‘y bwlch hyder’. Beth am drydar eich barn ohono? #POWiPL http://t.co/0pgRaACWrt
Sep 05 • reply • retweet • favorite
MenywodCymru ‘Yn lle dweud wrth fenywod am fod yn fwy hyderus, gadewch i ni helpu iddynt deimlo’n deilwng’ @JessicaValenti http://t.co/SzlYw2w9v5
Sep 05 • reply • retweet • favorite
MenywodCymru Canfu arolwg o 500 menyw fod 15% yn credu eu bod yn negodi’n effeithiol. Y gweddill yn osgoi negodi oherwydd profiad negyddol #POWiPL
Sep 05 • reply • retweet • favorite