Safle Porth Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus
Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Rosemary Butler AC, a Merched yn Gwneud Gwahaniaeth yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r angen i ragor o fenywod wneud cais am swyddi a phenodiadau cyhoeddus ac ymgymryd â'r rolau hynny.
Mae hyn yn arbennig o wir am fenywod sydd ag anableddau, menywod o leiafrifoedd ethnig, menywod iau neu hŷn, a menywod o ardaloedd gwledig.
Mae angen rhagor o gydraddoldeb mewn penodiadau cyhoeddus er mwyn sicrhau bod y bobl sydd mewn swyddi dylanwadol yn adlewyrchu ehangder y gymdeithas. Pam? Oherwydd bod pobl yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar eu profiadau personol ac os yw'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau yn rhan o gyfran fach o'r gymdeithas, bydd barn eang a mwyafrif y cyhoedd yn cael ei hanwybyddu.
Cynhaliwyd y seminar gyntaf yn y Pierhead ym Mae Caerdydd ar 8 Mawrth fel rhan o'r rhaglen o ddigwyddiadau a drefnwyd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2012.
Defnyddiwyd prif ganfyddiadau'r seminarau unigol fel sail ar gyfer cynhadledd genedlaethol lle cynigiodd baneli o arbenigwyr a siaradwyr gwadd syniadau ymarferol ar gyfer gwella cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus. Ar sail canlyniadau'r gynhadledd, ysgrifennodd y Llywydd at Arweinwyr y Pleidiau gan ofyn i'w pleidiau ystyried cymryd camau i sicrhau bod mwy o fenywod yn cynnig eu hunain fel ymgeiswyr etholiadol yn 2016. Mae'r Llywydd hefyd wedi lansio cyfres o ddarlithiau yn rhoi sylw i fenywod amlwg mewn meysydd y mae dynion wedi bod yn flaenllaw ynddynt yn draddodiadol; y safle porth hwn a fydd yn cynnwys manylion am benodiadau cyhoeddus yng Nghymru yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant priodol; a chynllun mentora yn targedu menywod a fydd yn darparu hyfforddiant dwys mewn datblygiad personol a sgiliau; cymorth mentora un i un; a chyfleoedd i gysgodi swyddi ar y lefelau uchaf i ysgogi ac annog nifer o gyfranogwyr ledled Cymru i allu ymgeisio'n llwyddiannus am benodiadau cyhoeddus ar bob lefel yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Mae'r safle porth hwn yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i ddysgu am fywyd cyhoeddus a chymryd rhan...
Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter drwy @WomenofWales @MenywodCymru neu defnyddiwch #POWiPL neu #MmBc i drydar ar y materion sy'n bwysig i fenywod yng Nghymru.
Pam fod angen safle porth Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus?
Mae llawer llai o fenywod na dynion yn gweithio mewn bywyd cyhoeddus ac, o ganlyniad, nid oes cymaint o lais ganddynt.Mae hyn yn arbennig o wir am fenywod sydd ag anableddau, menywod o leiafrifoedd ethnig, menywod iau neu hŷn, a menywod o ardaloedd gwledig.
Mae angen rhagor o gydraddoldeb mewn penodiadau cyhoeddus er mwyn sicrhau bod y bobl sydd mewn swyddi dylanwadol yn adlewyrchu ehangder y gymdeithas. Pam? Oherwydd bod pobl yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar eu profiadau personol ac os yw'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau yn rhan o gyfran fach o'r gymdeithas, bydd barn eang a mwyafrif y cyhoedd yn cael ei hanwybyddu.
Hanes
Yn 2012, cynhaliodd Rosemary gyfres o seminarau ar thema Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus. Gan ddechrau drwy archwilio'r rhwystrau sy'n ein hatal rhag cynyddu cynrychiolaeth menywod a ddisgrifir yn adroddiad "Pwy sy'n Rhedeg Cymru", a luniwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, cymerodd paneli o fenywod dylanwadol o wahanol sectorau ran mewn trafodaethau yn edrych ar gyfranogiad menywod mewn bywyd cyhoeddus.Cynhaliwyd y seminar gyntaf yn y Pierhead ym Mae Caerdydd ar 8 Mawrth fel rhan o'r rhaglen o ddigwyddiadau a drefnwyd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2012.
Defnyddiwyd prif ganfyddiadau'r seminarau unigol fel sail ar gyfer cynhadledd genedlaethol lle cynigiodd baneli o arbenigwyr a siaradwyr gwadd syniadau ymarferol ar gyfer gwella cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus. Ar sail canlyniadau'r gynhadledd, ysgrifennodd y Llywydd at Arweinwyr y Pleidiau gan ofyn i'w pleidiau ystyried cymryd camau i sicrhau bod mwy o fenywod yn cynnig eu hunain fel ymgeiswyr etholiadol yn 2016. Mae'r Llywydd hefyd wedi lansio cyfres o ddarlithiau yn rhoi sylw i fenywod amlwg mewn meysydd y mae dynion wedi bod yn flaenllaw ynddynt yn draddodiadol; y safle porth hwn a fydd yn cynnwys manylion am benodiadau cyhoeddus yng Nghymru yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant priodol; a chynllun mentora yn targedu menywod a fydd yn darparu hyfforddiant dwys mewn datblygiad personol a sgiliau; cymorth mentora un i un; a chyfleoedd i gysgodi swyddi ar y lefelau uchaf i ysgogi ac annog nifer o gyfranogwyr ledled Cymru i allu ymgeisio'n llwyddiannus am benodiadau cyhoeddus ar bob lefel yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Felly, beth yw bywyd cyhoeddus?
Edrychwch ar y fideo hwn i ddarganfod beth wnaeth symbylu'r Llywydd i ymgymryd â'r prosiect hwn ac i annog mwy o fenywod i gamu i mewn i fywyd cyhoeddus...Mae'r safle porth hwn yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i ddysgu am fywyd cyhoeddus a chymryd rhan...
|